Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
21 Mawrth 2022
SL(6)170 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd ar y Cyd ac Unigol Personau sy’n Ymadael â Gofal) (Cymru) 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i roi esemptiad i bersonau cymwys 24 ac iau, sy’n ymadael â gofal, rhag atebolrwydd ar y cyd ac unigol am dalu’r dreth gyngor mewn perthynas ag anheddau trethadwy yng Nghymru.
Pan fo’r rhai sy'n ymadael â gofal yn byw gyda priod neu bartner neu mewn aelwydydd sydd â mwy nag un oedolyn, gellir dal pob un o’r oedolion yn atebol ar y cyd ac yn unigol am fil treth gyngor eu cartref. Felly, gallai person sy’n ymadael â gofal gael ei ddal yn atebol am dalu’r dreth gyngor pan fo person arall (nad yw’n esempt) yn methu â thalu ei dreth gyngor. Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i gynnig gostyngiadau ar filiau’r dreth gyngor ac mae rhai wedi defnyddio’r pwerau hyn i esemptio unigolion sy’n ymadael â gofal rhag atebolrwydd.
Effaith y Rheoliadau hyn fydd lleihau’r atebolrwydd am dalu’r dreth gyngor i ddim ar gyfer personau cymwys sy’n ymadael â gofal.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Fe’u gwnaed ar: 01 Mawrth 2022
Fe’u gosodwyd ar: 04 Mawrth 2022
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2022
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
21 Mawrth 2022
SL(6)171 – Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Gorchymyn yn rhoi i Menai Strait Fishery Order Management Association (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol a’r hawl i reoleiddio pysgodfa am rywogaethau rhagnodedig o bysgod cregyn. Yn unol â’r hawl i bysgodfa unigol, y Grantî yn unig sydd â’r hawl i osod, lluosogi, llusgrwydo a chymryd y pysgod cregyn perthnasol. Y rhywogaethau rhagnodedig yw cregyn gleision ac wystrys.
Mae’r hawliau yn bodoli dros ardal o tua 694 o hectarau o flaendraeth a gwely Afon Menai yn Siroedd Gwynedd ac Ynys Môn fel y’i pennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn ac fel y’i dangosir ar y map isod.
Rhoddir yr hawl i bysgodfa unigol a’r hawl i reoleiddio pysgodfa i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022. Nod y trefniant hwn yw gosod dyframaethu ar sail ddiogel.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967
Fe’u gwnaed ar: 03 Mawrth 2022
Fe’u gosodwyd ar: 04 Mawrth 2022
Yn dod i rym ar: 02 Ebrill 2022
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
21 Mawrth 2022
SL(6)179 – Rheoliadau Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag aelodaeth a gweithdrefnau ymddiriedolaethau’r GIG.
Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer rôl yr is-gadeirydd statudol ar fwrdd cyfarwyddwyr ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru fel swydd cyfarwyddwr anweithredol ychwanegol, gan gynnwys mewn cysylltiad â deiliadaeth swydd (gan gynnwys terfynu ac atal dros dro), penodiad, anghymhwyso ar gyfer penodiad, cymhwystra ar gyfer ailbenodi, a phwerau a rôl yr is-gadeirydd yn nhrafodion a phwyllgorau ymddiriedolaethau’r GIG.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth i ostwng uchafswm nifer y cyfarwyddwyr anweithredol a ganiateir (heb gynnwys y cadeirydd a’r is-gadeirydd) ar fwrdd ymddiriedolaeth o 7 i 6 o ganlyniad i ychwanegu swydd yr is-gadeirydd statudol. Maent hefyd yn cynyddu'r uchafswm o gyfarwyddwyr gweithredol ymddiriedolaethau’r GIG a ganiateir o 5 i 6 (gan gynnwys y Prif Weithredwr).
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Fe’u gwnaed ar: 08 Mawrth 2022
Fe’u gosodwyd ar: 11 Mawrth 2022
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2022
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
21 Mawrth 2022
SL(6)174 – Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) yn gosod dyletswydd ar gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i gadw cofrestr sy’n nodi enw a chyfeiriad pob aelod o’r cyngor a phob aelod o bwyllgor o’r weithrediaeth. Mae Rheoliadau 2001 yn ei gwneud yn ofynnol bod y gofrestr honno yn agored i’r cyhoedd edrych arni ym mhrif swyddfa’r awdurdod.
Er mwyn darparu amgylchedd diogel i’r rhai sy’n barod i gynnig eu hunain ar gyfer swyddi etholedig, un o’r camau a nodwyd i gyflawni’r nod hwnnw yw dileu’r gofyniad i gynnwys cyfeiriadau aelodau fel rhan o’r gofrestr y mae’n rhaid iddi fod yn agored i’r cyhoedd edrych arni.
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i ddarparu na chaiff yr wybodaeth sy'n agored i'r cyhoedd edrych arni gynnwys cyfeiriad aelod sydd wedi'i gynnwys yn y cofrestrau.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 / Ddeddf Llywodraeth Leol 2000
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 05 Mai 2022